Awards
THE CIVIC TRUST FOR WALES • YMDDIRIEDOLAETH DDINESIG CYMRU

 

Yn Saesneg


FERSIWN PDF

NODIADAU CYFARWYDDO (pdf)

FFURFLENNI (pdf)


PARTNERIAETHAU

Cadw

Sefydliad Cadwraeth Adeiladau Hanesyddol

Anabledd Cymru

Gwobrau dylunio lleol Cymru 2008

Trefnwyd gan Ymddiriedolaeth Ddinesig Cymru mewn partneriaeth gyda Sefydliad Cadwraeth Adeiladau Hanesyddol, Anabledd Cymru, a Cadw, y gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cynulliad Cymru

Drybridge House Monmouth

Drybridge House, Y Fynwy, ennillwr yn 2006

Mae Ymddiriedolaeth Ddinesig Cymru yn galw unwaith eto am geisiadau ar gyfer Gwobrau Dylunio Lleol Cymru.

Mae’r gwobrau yn dathlu dyluniadau da mewn cyd-destun lleol. Rydym o’r farn mai’r bobl sy’n byw neu’n gweithio yn y gymuned leol yw’r rhai gorau i gydnabod y cyfraniad y mae dyluniad yn ei wneud i naws nodedig lle. Gallai enwebiadau ddod o gymdeithasau dinesig, grwpiau anabledd lleol, cymdeithasau amwynder neu sefydliadau tebyg. Hefyd, gwahoddir pobl sy’n aelodau o Sefydliad Cadwraeth Adeiladau Hanesyddol i gymryd rhan, sy’n gweithio mewn cadwraeth adeiladau hanesyddol yng Nghymru.

Maen prawf cyffredinol
Dylai cynlluniau gynnwys dyluniad da, sy’n addas i’r cyd-destun. Gallan nhw fod o unrhyw fath a maint. Gall prosiectau fod yn adeiladau neu strwythurau newydd, neu gynnwys gwaith cadwraethol neu adfer/ailddefnyddio. Gallan nhw arddangos atebion dylunio arloesol neu gyfoes, ymateb i anghenion defnyddwyr, a chyfrannu tuag at amgylchedd cynaliadwy, pleserus, saff a diogel.
  Dylai prosiectau fod wedi cael eu cwblhau ers mis Ionawr 2000. Gall cymdeithasau dinesig a grwpiau eraill gyflwyno prosiectau y maen nhw wedi eu cydnabod yn eu cynlluniau gwobrwyo eu hunain.

Gwobrau arbennig
Yn ychwanegol i’r gwobrau cyffredinol, bydd yr holl geisiadau’n cael eu hystyried am wobrau arbennig yn y categorïau canlynol:

  • dyluniad newydd
  • atebion arloesol i fynediad (a) mewn cyd-destun/strwythur hanesyddol (b) mewn datblygiad newydd
  • dyluniad newydd mewn cyd-destun hanesyddol
  • cadwraeth/adnewyddu/ail-ddefnyddio
  • creu neu warchod arteffactau yn yr amgylchedd adeil­edig – er enghraifft, cofebion rhyfel, manylder pensaernïol, gwaith haearn, celfyddyd gyhoeddus.

Bydd nifer a lefel y gwobrau neu’r canmoliaethau arbennig ar ddisgresiwn yr aseswyr.
  Caiff y wobr ar gyfer mynediad arloesol mewn cyd-destun hanesyddol ei gefnogi gan Cadw.
  Caiff y wobr am atebion arloesol i fynediad mewn datblygiad newydd ei gefnogi gan Anabledd Cymru.
  Mae Sefydliad Cadwraeth Adeiladau Hanesyddol yn cefnogi’r wobr ar gyfer dyluniad newydd mewn cyd-destun hanesyddol.

Asesiad
Mae’r gwobrau hyn yn wahanol gan eu bod nhw’n ceisio cael gwerthusiad o’r gwaelod i fyny, yn hytrach na beirniadaeth o’r top am i lawr ar ddyluniadau lleol. Eu nod yw canol­bwyntio ar gynlluniau sy’n llwyddiannus mewn cyd-destun lleol a gosod safon ar gyfer cynlluniau yn y dyfodol. Dylai cynlluniau dalu sylw at y pethau sydd o’u hamgylch a chyfrannu at naws lle.
  Bydd panel a grëwyd gan bartneriaid prosiect yn sgrinio enwebiadau. Bydd yr holl gynlluniau sy’n ymateb yn llwyddiannus i’r maen prawf cyffredinol yn cael eu cydnabod.

Gwobrau a chanmoliaethau arbennig Bydd y panel arbenigo, ble’n bosib, yn cynnig bod gwobrau neu ganmoliaethau arbennig yn cael eu gwneud ym mhob categori. Gellir ymweld â safleoedd i gefnogi’r broses asesu.

Darparu tystiolaeth i gefnogi enwebiad
Ceisiwch nodi’n gryno, mewn iaith hawdd ei deall, pam fo’r prosiect a gyflwynwyd yn llwyddiannus – mewn geiriau eraill, pam rydych chi’n ei hoffi neu’n ei edmygu, a pam ei fod yn gwella’r olygfa leol. Mae delweddau’n gallu cyfleu yn well na geiriau, felly canolbwyntiwch yn arbennig ar ddarparu tystiolaeth weledol dda i gefnogi’r enwebiad.

Adnoddau defnyddiol
Os oes rhaid i chi fynd yn dechnegol, yna efallai yr hoffech chi edrych ar Nodyn Cyngor Technegol Llywodraeth y Cynulliad ar Ddylunio, (TAN 12). Mae Creu Lleoedd Cynal­iadwy (2005) yn amlinellu disgwyliadau’r llywodraeth o ran cynaladwyedd ac ansawdd dyluniad ar gyfer yr holl brosiectau adfywio y gofynnir iddi ei chefnogi. Mae hyn yn cael ei arolygu ar hyn o bryd, ond mae’n gynorthwyol iawn.
  Mae adnodd Cadw, Goresgyn y Rhwystrau, ar fynediad i adeiladau hanesyddol a’r Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd yn mynd yn syth at y pwynt ac yn llawn gwybod­­aeth, ac yn cynnwys astudiaethau achos defnyddiol. Mae’r Sefydliad Treftadaeth Saesneg wedi cyhoeddi Easy Access to Historic Buildings, sy’n cynnig cyfarwyddyd ymarferol a llawer o enghreifftiau darluniadol o sut mae’n bosib cael mynediad cynhwysol i adeiladau hanesyddol. O bosib, bydd Easy Access to Historic Landscapes yn berthnasol hefyd.
  O bosib, gall Anabledd Cymru eich rhoi chi mewn cysylltiad gyda grŵp mynediad lleol ac/neu swyddog mynediad awdurdod lleol, os ydych chi’n meddwl y gallai hyn eich helpu chi o ran deall a sylwebu ar faterion mynediad mewn achos arbennig.
  Mae cyfarwyddyd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Creu Amgylchedd Cynhwysol yn egluro’r syniad o ddyluniad cynhwysol, ac mae’n bwynt cyfeirio defnyddiol.
  Mae cyfarwyddyd interim terfynol Llywodraeth y Cynulliad ar ddatganiadau mynediad yn rhoi diffiniad defnyddiol o ddyluniad cynhwysol ac yn amlinellu’r gofynion a sefyd­lwyd gan y ddeddfwriaeth cynllunio. Nawr, mae rhaid anfon datganiadau mynediad gyda cheisiadau ar gyfer caniatâd cynllunio a chaniatâd ar gyfer adeilad rhestredig.
  Yn fuan, bydd Comisiwn Dylunio Cymru yn cyhoeddi en­ghreifftiau ymarferol o sut i gynnwys atebion mynediad yng nghamau cynnar dyluniad.

Cyfeiriadau o’r We

Cadw: www.cadw.wales.gov.uk
English Heritage: www.english-heritage.org.uk
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol: www.equalityhumanrights.com
Y Comisiwn Dylunio Cymru: www.dcfw.org

 

 
Top | Home